Categories
Bwyd / Food

Sgwrs gydag Annes o ‘Y Bwrdd’

Rwyf wedi bod yn sgwrsio gydag Annes Elwy, actores sy’n byw yng Nghaerdydd, yn fwyaf enwog am ei rôl yn Little Women, Apostle, a Hidden a sydd erbyn hyn wedi sefydlu’r cwmni Y Bwrdd.

Mae Y Bwrdd yn gaffi stepen drws unigryw a newydd yn ein prifddinas, sy’n paratoi hampers llawn cynnyrch lleol a phethau wedi eu coginio o adre. Mae’n deg i ddweud fod Y Bwrdd wedi helpu cadw diwylliant cyfoethog adloniant-bwyd Caerdydd yn fyw, ac wedi dod a chymdogion at ei gilydd mewn cyfnod lle rydym wedi gorfod fod ar wahân.

Dechreuodd Y Bwrdd yn 2018 fel ‘pop-up restaurant,’ yn cynnig prydiau tri-chwrs mewn mannau ffasiynol ar draws y ddinas. Falle mai’r peth mwyaf unigryw a sbesial amdano oedd y gymuned yr oedd yn ymgysylltu gyda’i gilydd… cyplau a chriw o ffrindie yn cymysgu gyda diethriaid i rannu bwrdd er mwyn cael blas ar fwyd anhygoel Annes a Gwenllian.

Addasodd Y Bwrdd mewn i gaffi stepen drws ar ddechre’r cyfnod clo, a mae wedi bod yn llwyddiannus dros ben. Gyda’i brwdfrydedd mewn defnyddio cynnyrch lleol a’i awch i greu bwydydd unigryw eu blas, does dim rhyfedd bod y cwmni yn llewyrchu.

Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i sgwrsio gydag Annes am lwyddiant Y Bwrdd, ei choginio, a’r gymuned y mae hi wedi ei chreu. Fel hyn aeth y sgwrs:

Sut dechreuodd Y Bwrdd?

“Ddechreuais i Y Bwrdd yn fuan ar ôl Sesiwn Fawr Dolgellau 2018, wedi i fi gwrdd â Gwenllian, sydd bellach yn ffrind da i fi! O’n i ‘di bod isio gneud clwb swper ers oesoedd, ond ddim cweit yn siwr sut i fynd ati i neud, neu falle jyst ddim cweit digon dewr. Ond o fewn deufis o gwrdd, roedden ni’n gneud ein noson gyntaf, i 30 o bobl yn Eglwys St Catherines yng Nghaerdydd. Mae gwneud rhywbeth dychrynllyd lot haws pan mae ‘na rywun efo chi yn dal eich llaw!”

Y’ch chi’n teimlo fod yna cynnydd yn y nifer o bobol sy’n dewis i brynu a bwyta cynnyrch lleol?

“Dwi’n meddwl bod o’n rwbeth mae pobl wedi bod yn ymwybodol ohono fo dros y blynyddoedd diwetha’, y ddyletswydd i siopa’n lleol erbyn hyn, yn yr un ffordd â mae pawb yn ymwybodol o’r ddyletswydd i siopa’n ddi-blastic ayyb, ond ym mhrysurdeb bywyd, mae o jyst yn haws siopa mewn archfarchnadoedd am 7yh, nac ydi o i gyrraedd y siopau annibynnol cyn iddyn nhw gau am 4yh. Gan mod i’n cynnwys siopa bwyd yn hobby, ac yn actores heb swydd strwythurol 9-5, dwi ddim erioed wedi cael y drafferth yna. Dwi’n dwli ar grwydro’r ddinas am oriau yn prynu pethau bach o fan hyn a fan acw. Mae o’n wir fod y siopau annibynnol wedi cael cynnydd aruthrol yn ystod hwn i gyd, ac er mod i’n clywed yn barod bod o bendant yn tawelu, dwi’n gobeithio bydd o wedi newid ffyrdd lot o bobl o siopa. Mae’r cynnyrch fel arfer gymaint yn well, ac yn aml yn rhatach, felly mae o’n gneud synnwyr i siopa’n lleol, felly o’r holl ddyletswyddau sydd gennyn ni, mae siopa’n lleol a chefnogi busnesau bach lleol, yn un o’r rhai mwya’ pleserus!”

Ydych chi’n credu fod llwyddiant Y Bwrdd yn cael i fwydo gan ymwybyddiaeth bobl am bwysigrwydd gefnogi busnesau lleol?

“Anodd iawn deud! Dwi’n defnyddio cynnyrch lleol yn fy mwydydd i gyd, ac yn rhoi platfform i fusnesau lleol eraill yn y bocsys. Yn naturiol wedyn dwi’n denu pobl sy’n rhannu’r un gwerthoedd, ac yn hoffi’r un math o fwydydd! Dwi hefyd yn cael lot o gefnogaeth gan y gymuned Gymraeg, sydd mor neis.”

A ydych chi’n credu fod Y Bwrdd yn dod a’r gymuned ati gilydd mewn ffordd?

“Mae’r clybiau swper yn sicr yn gneud hynny. Mae’r drysau yn agor tua 7.15pm, a phawb yn eistedd i ddechrau eu pryd ar yr un pryd. Mae o’n teimlo fel mynychu sioe theatr neu ddigwyddiad mae pawb yn cyd-brofi. Mae pawb yn eistedd ar fwrdd hir, fel banquet table, wedi ei addurno efo canhwyllau a blodau, a hyd yn hyn mae pob un wedi bod yn ‘BYOB’, a gan fod pawb yn talu o flaen llaw am y bwyd, a sdim bill i dalu ar ddiwedd y noson, mae ‘na awyrgylch hyfryd i gael. Oedd lot o bobl yn mynychu pob digwyddiad, felly mae hwnna’n tyfu cymuned yn ei hun. O ran y bocsys, dwi’n meddwl bod o’n creu cymuned mewn ffordd arall. Mae lot o bobl sy’n byw yng Nghaerdydd â theulu yn ardaloedd gwahanol o Gymru, neu dramor hyd yn oed, felly dwi’n cal lot o archebion sy’n anrhegion gan ffrindiau a theuluoedd pell, ac mae’r ffaith mod i’n gallu gneud o gyd yn Gymraeg a chynnwys neges ayyb yn eu cysylltu nhw efo’u cymuned bell.”

Mae’r syniad o pop-up restraunt a chaffi stepen drws yn eithaf modern, sut mae pobl yn ymateb i rain?

“Mae’r caffi stepen drws ‘di bod yn ddigon hawdd, gan fod o’n esblygiad o gal take-away, sydd yn beth normal iawn i bawb erbyn hyn! Mae’r pop-ups a’r clybiau swper lot anoddach. Dwi’n meddwl bod pobl yn clywed y term ac yn cymryd mai rhyw fath o come dine with me ydi o, ond wir jyst bwyty byr-dymor ydy o (un noson fel arfer!), mewn lleoliadau sydd ddim fel arfer yn fwytai o gwbl.”

Mae’r caffi stepen drws wedi bod yn llwyddiant mawr yn ystod y cyfnod clo, ydych chi’n credu fod yna le i’r caffi stepen drws ar ôl i gyfyngiadau gorffen?

“Actio ydw i fel arfer, a fyswn i’n dwli ar gario hwn mlaen, ond dwi’n ymwybodol unwaith i’r clyweliadau ail ddechrau, pa mor anodd fydd o i fedru trefnu unrhywbeth mwy na diwrnod o flaen llaw. Felly dwi’n tybio mai peth dros dro fydd hwn yn anffodus. Wedi deud hynny, pwy a ŵyr pryd fydd clyweliadau yn ail ddechrau, felly falle bydd y ‘dros dro’ yn dro eitha’ hir!”

Y’ch chi’n gobeithio ail dechrau’r pop-up restaurant ar ôl y cyfnod clo gorffen?

“Ydw yn sicr, fydd o’n teimlo fel dathliad go iawn, ac yn fwy cymunedol nac erioed, ond dwisio aros nes bod pawb wedi dod dros yr anxiety sy’n dod efo addasu unwaith eto i fod yng nghwmni pobl. Dwisio pawb fedru ymlacio yn llwyr a mwynhau eu hunain.”

Beth yw’r order mwyaf poblogaidd y’ch chi’n derbyn?

“Fyswn i’n deud mai’r brecwast mwyaf poblogaidd ydi’r bocs Brecwast y Ffermdy’ – selsig a chig moch gan Oriel Jones, y wyau gorau gewch chi gan Fferm Misgin, torth o fara cartref, menyn Sir Gar, a llysie brecwast neu ketchup Halen Môn. Ond yn ogystal â hwnna, mae’r bocs picnic wedi bod yn boblogaidd iawn ers i mi ddechrau honna, mae’r gacen lemon a mafon yn ffefryn gan bobl hefyd, ac mae pobl wrth eu boddau yn gofyn am bethau sydd ddim ar y fwydlen, sydd wastad yn hwyl i fi hefyd.”

Beth ddechreuodd eich diddordeb mewn coginio?

“Gormod o ‘Day Time TV’ dwi’n meddwl! Ma’ mam yn gogyddes wych hefyd, ond roedd hi’n llym iawn am siwgr wrth i ni dyfu fyny, felly os o’n i isio cacen, roedd rhaid i fi ei bobi o. Nes i fethiant llwyr o’r Victoria Sponge ganwaith yn fy mhlentyndod, oedd o mor rhwystredig, ond oedd dad wastad yn hapus iawn i’w bwyta nhw felly nes i ddyfalbarhau. Nath o droi yn fwy o obsesiwn wrth i fi fyw yn Llundain ar ôl graddio, a chael yr holl gynhwysion newydd yma o fy nghwmpas i – Bwydydd o Gameroon, Iran, Twrci, Jamaica a gymaint mwy, ar fy stepen drws!”

Lle i chi’n cael eich syniadau am ryseitiau o?

“Dwi’n meddwl mod i ‘di bwyta digon i fedru dychmygu be fydd yn gweithio efo’u gilydd, fel arlunydd yn mynd ati i beintio, mae o’n reddfol erbyn hyn. Mae’r ysbrydoliaeth yn dod o atgofion o brydiau, bwyta allan, a llyfrau coginio.”

Mae eich coginio yn eitha’ modern, yn defnyddio blasau o amgylch y byd a rhai blasau unigryw fel eich cacennau cri cennin a chaws, lle chi’n cael ysbrydoliaeth o?

“Dwi ddim wir yn gwybod o le ddaeth hwnna, ond oedd o jyst yn eitha amlwg yn fy mhen i y byse fo’n gweithio. Maen nhw wir yn addictive, ac mor hawdd i fwyta, maen nhw jyst yn diflannu cyn i chi eistedd lawr!”

Beth yw eich hoff blasau i roi ati gilydd?

“Ma’ pistachio a rhosod yn gweithio’n hyfryd efo’u gilydd, yn enwedig efo bricyll rhost, neu fefus o’r ardd, neu riwbob! Ond hefyd, ma’ lemon a halen yn gwella popeth.”

Pa tri gair fyddech chi’n rhoi er mwyn disgrifio eich steil o goginio?

“Ffres, Lliwgar, Lleol.”

O’r hyn dwi wedi clywed wrth Annes ac wrth cael cip olwg ar ei lluniau, allai ddim aros i brofi ei chynnyrch. Os y’ch chi’n byw yng Nghaerdydd fydde’n i’n eich hargymell i archebu o’r cwmni i’ch stepen drws cyn gynted â phosib, pwy a ŵyr pryd fydd Annes nol ar ein sgrîn a fydd y caffi stepen drws yn gorfod dod i ben. Wedi dweud hynny, rwy’n edrych ‘mlaen i fwynhau noson yn y pop-up restraunt, gan groesi bysedd y bydd yn ailddechrau go gloi.

Leave a Reply

Your email address will not be published.